Termau ac amodau / Terms and conditions

TELERAU

Y wefan, Cant a mil a chi.

Gweithredir y wefan www.cantamil.com gan Cant a mil ac mae unrhyw gyfeiriadau at ‘ni’ ac ‘ein’ yn cyfeirio at Cant a mil. Mae unrhyw gyfeiriadau at ‘chi’ neu ‘eich’ yn cyfeirio at y person sy’n gwneud archeb ar y wefan.

Ein henw yw Cant a mil a chyfeiriad y prif leoliad busnes yw:

100 Whitchurch Road, Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 3LY
Ein cyfeiriad ebost yw jo@cantamil.com a’n rhif ffôn yw 02920 212474

Mae Cant a mil yn fusnes preifat.

Mae’r prisiau ar y wefan yn gywir ac yn cynnwys TAW ar y gyfradd gyfredol. Cedwir yr hawl i godi prisiau.

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod pob disgrifiad a llun a holl fanylion cynhyrchion yn gywir. Cedwir yr hawl i newid manylion y cynnyrch yn ddirybudd

ARCHEBU

Wrth ichi wneud archeb gyda Cant a mil, bernir eich bod wedi darllen, wedi deall ac wedi cytuno â’r telerau a’r amodau. Os ydych yn anfodlon ar unrhyw elfen o’r telerau, cysylltwch â ni cyn gwneud archeb drwy ffonio 02920 212474, e-bostio jo@cantamil.com neu drwy’r post yn y cyfeiriad uchod.

Wrth archebu nwyddau ar y wefan yma rydych chi’n cynnig prynu’r nwyddau a nodir yn eich archeb i Cant a mil, yn unol â’r telerau a’r amodau a ddisgrifir yn eich archeb. Ar ôl i’ch archeb ddod i law, byddwn yn cydnabod yr archeb ond ni fydd hyn yn cadarnhau ein bod yn derbyn eich cais i brynu’r nwyddau. Dim ond ar ôl i’r archeb gael ei derbyn, ei phrosesu a’i hanfon atoch y bydd contract i werthu’r nwyddau yn dod i rym rhyngoch chi a Cant a mil.

Gall y nwyddau sydd ar gael a’u prisiau newid yn ddirybudd.

TALIADAU A THRETHI

Derbyniwn daliadau ar-lein mewn amgylchedd diogel. Ar hyn o bryd, derbyniwn VISA a MASTERCARD. Dangosir pob gwerthiant mewn punnoedd sterling (£).

Mae pob pris a ddyfynnir ar y wefan yn gywir adeg ei gyhoeddi ac mewn punnoedd sterling (£), a lle bo’n briodol yn cynnwys Treth Gwerthiant a TAW y DU. Y gyfradd TAW bresennol yw 20%.

EICH HAWL I GANSLO

Fel arfer, cewch ganslo eich archeb am unrhyw reswm cyn i’r nwyddau gael eu postio. Os byddwch yn canslo’r contract yn ystod y cyfnod yma, fe ad-dalwn unrhyw daliad a wnaethoch o fewn 14 diwrnod. Mae gennych hawl i ganslo eich archeb hyd at 14 diwrnod ar ôl derbyn eich nwyddau, a rhoddir ad-daliad llawn.

POLISI AD-DALU/DYCHWELYD NWYDDAU

Mae Cant a mil yn gobeithio y byddwch chi’n fodlon ar eich nwyddau, ond gallwn gyfnewid eich eitem neu gynnig ad-daliad os nad ydynt yn eich plesio. Gofynnir i chi ddychwelyd eitemau cyn pen 14 diwrnod ar ôl eu derbyn. Dychwelwch eitemau i’r cyfeiriad canlynol: Cant a mil, 100 Whitchurch Road, Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 3LY.

AMODAU

Gofynnir i chi ddychwelyd eitemau cyn pen 14 diwrnod ar ôl eu derbyn, heb eu defnyddio a gyda’r tagiau a’r pecyn gwreiddiol yn gyflawn.

NWYDDAU WEDI’U DIFRODI

Os bydd eich nwyddau wedi’u difrodi a/neu’n ddiffygiol, cysylltwch â ni ar unwaith ar 02920 212474 neu ebostiwch jo@cantamil.com

POSTIO

Yn anffodus, ni allwn dalu am y tâl postio os byddwch chi’n dychwelyd eitemau. Argymhellwn eich bod yn defnyddio cludiant cofrestredig wedi’i yswirio ac yn cadw’r dderbynneb. Ni fyddwn yn atebol am nwyddau a gollir ac a ddifrodir wrth gael eu cludo. Ni fyddwn yn gyfrifol am daliadau llog a wneir gan gwmni eich cerdyn credyd cyn bod yr arian am nwyddau sydd wedi’u dychwelyd wedi’i ad-dalu i chi.

CWMNÏAU CLUDO

I’ch helpu i ddychwelyd nwyddau, rydym ni’n defnyddio Y Post Brenhinol.

Os hoffech siarad â ni am nwyddau i’w dychwelyd, cysylltwch ar 02920 212474, neu ebostiwch jo@cantamil.com

TERMS

The website, Cant a mil and you

This website, found under the www.cantamil.com URL, is operated by Cant a mil and references to ‘we’ ‘us’ and ‘our’ shall be deemed to be references to Cant a mil. References to ‘you’ and ‘your’ shall be deemed to be references to persons placing an order via this website.

Our name is Cant a mil with our principle place of business at:

100 Whitchurch Road, Heath, Cardiff, Wales CF14 3LY.
Our email address is jo@cantamil.com and our telephone number is 02920 212474

Cant a mil is a privately owned business.

Website prices are all correct, inclusive of VAT at the current rate. We reserve the right to increase prices

Every effort has been made to ensure descriptions, photographic reproductions and specifications of products are correct. We reserve the right to alter specifications of products without prior notice

PLACING AN ORDER

By placing an order with Cant a mil you will be deemed to have read, understood and agreed to the terms and conditions. If you are unhappy with any aspect of these terms, then you should contact one of our team before placing an order with us, either by telephone on 02920 212474 or by email at jo@cantamil.com or by post using the address given above.

By placing an order via this website you are making an offer to Cant a mil to purchase the goods detailed in your order upon the terms described in your order. Once you have placed an order we will send you a confirmation that your order has been received but this is not a confirmation that your offered purchase of goods has been accepted. A contract between you and Cant a mil for the sale of our products will only exist once an order has been accepted, processed and dispatched to you.

Prices and availability of goods are subject to change without notice.

PAYMENT & TAXES

We accept online payment in a secure environment. We currently accept VISA and MASTERCARD. All transactions are shown in pounds sterling (£).

All prices quoted on this website are accurate at the time of publication and are quoted in pounds sterling (£) and where appropriate are inclusive of UK sales tax and VAT. 

YOUR RIGHT TO CANCEL

You may normally cancel your order for any reason up to the point of dispatch. If you do cancel the contract within this time any payments made by you will be refunded within 14 days. You have the right to cancel your order up to 14 days of receipt, where a full refund will be given.

RETURNS/REFUND POLICY

Cant a mil hope you will be happy with your items, but if not then we can either exchange your item for something else or offer you a refund. An exchange or refund will only be offered within 14 days of receipt of goods. Please return to us at: Cant a mil, 100 Whitchurch Road, Heath, Cardiff, Wales CF14 3LY.

CONDITIONS

We ask that the items are returned to us within 14 days of receipt, unused and with all the original tags and packaging intact. Return your items and please tell us why you are dissatisfied.

DAMAGED GOODS

In the unfortunate event that goods arrive damaged and/or faulty, please contact us immediately on 02920 212474 or email jo@cantamil.com

POSTAGE

Unfortunately we can not be responsible for the return postage and recommend that when you post the goods that you use insured registered delivery and keep the receipt. We cannot accept liability for goods lost or damaged in transit. We cannot be responsible for interest charges made by your credit card company whilst waiting for returns to be refunded to your card.

DELIVERY COMPANIES

To help with your return delivery, the delivery company we use is Royal Mail.

If you would like to speak to us about your return, then please call us on 02920 212474, or email jo@cantamil.com