Siop Lyfrau | Caerdydd / Book Shop Cardiff
Discover a Book Shop Cardiff Readers Love Coming Back To
Cant a mil is the kind of book shop Cardiff where it’s very easy to lose track of time. It’s not just somewhere to pick up a book; it’s a space built around Welsh language, culture, and discovery, with a huge range of titles for learners, fluent speakers, children, and curious readers alike.
One of the best things about the collection is that you don’t need to arrive knowing exactly what you want. You might start off searching for a beginner Welsh book and end up finding a brilliant novel, a children’s story, a Welsh cookbook, or something that connects you with Welsh history and culture. There’s a real mix of books and resources here, which makes browsing feel much more personal and enjoyable than scrolling through a generic online retailer.
If you can’t make it into the shop in person, you can still explore everything online. The website makes it easy to order to your home and discover new books wherever you are, so you’re not limited to what’s available in larger chain bookstores.
A Place to Explore Welsh Language and Culture
For many people learning Welsh, the challenge isn’t starting; it’s keeping the language part of everyday life.
Reading can really help with that. Seeing Welsh used naturally in stories, conversations, humour, and day-to-day situations helps the language feel more familiar and much less intimidating.
Cant a mil has books for every stage too, from complete beginner resources to books for more confident readers. Whether you prefer structured learning guides, story-led reading, dictionaries, poetry, or modern Welsh fiction, there’s enough variety here.
Bring Welsh language into your everyday life through reading when you visit our book shop in Cardiff or buy online.
Dewch i nabod siop lyfrau mae darllenwyr Caerdydd wrth eu bodd yn dod iddi dro ar ôl tro
Cant a mil yng Nghaerdydd yw'r math o siop lyfrau lle mae'n hawdd iawn colli golwg ar amser. Mae’n fwy na lle i godi llyfr; mae wedi'i adeiladu o amgylch iaith a diwylliant Cymru a darganfod, gydag amrywiaeth aruthrol o deitlau i ddarllenwyr chwilfrydig, dysgwyr, siaradwyr newydd a phlant fel ei gilydd.
Un o'r pethau braf am y casgliad yw nad oes angen ichi wybod beth yn union beth rydych chi ei eisiau cyn ichi gyrraedd. Efallai y dechreuwch chi drwy chwilio am lyfr i ffrind sy’n dysgu Cymraeg cyn taro ar nofel wych, stori i blant, llyfr coginio Cymraeg, neu rywbeth sy'n eich cysylltu â’n hanes a’n diwylliant. Mae yma gymysgedd gwych o lyfrau ac adnoddau, sy'n golygu bod pori’n teimlo'n llawer mwy personol a phleserus na sgrolio trwy wefan rhyw fanwerthwr generig ar-lein.
Os na allwch chi ddod i'r siop yn bersonol, mae’n dal yn bosibl chwilio popeth ar-lein. Drwy'r wefan mae'n hawdd archebu i'ch cartref a chanfod llyfrau newydd ble bynnag y boch chi. Dydych chi ddim yn gyfyngedig felly i'r hyn sydd ar gael mewn siopau cadwyn mawr.
Lle i ddod i nabod iaith a diwylliant Cymru
I lawer o bobl sy'n dysgu Cymraeg, nid dechrau arni yw’r her ond cadw'r iaith yn rhan o fywyd bob dydd. Mae darllen yn help mawr yn hyn o beth. Mae gweld yr iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol mewn straeon, sgyrsiau, hiwmor, a sefyllfaoedd bod dydd yn helpu'r iaith i deimlo'n fwy cyfarwydd ac yn llawer llai brawychus. Mae gan Cant a mil lyfrau ar gyfer pob cam hefyd, o adnoddau cyflawn i ddechreuwyr i lyfrau ar gyfer darllenwyr mwy hyderus. O ganllawiau dysgu strwythuredig, straeon, geiriaduron, barddoniaeth, neu ffuglen Gymraeg fodern, mae yma hen ddigon o amrywiaeth.
Cefnogwch y Gymraeg yn eich bywyd bob dydd trwy ddarllen pan fyddwch chi’n dod i'n siop lyfrau yng Nghaerdydd neu'n prynu ar-lein.
Cant a mil i bawb!
LLYFRAU NEWYDD - New Books
(142 eitem / items)
Yr Eisteddfod
(5 eitem / items)
Gemau / Games
(22 eitem / items)
Cardiau Arholiadau a'r Ysgol - Exam and School Cards
(8 eitem / items)
FAQs: Book Shop Cardiff
Q: Can I still enjoy Welsh books if I’m not fluent?
A: Definitely. You don’t need to understand every single word to enjoy reading in Welsh. Many learners pick things up naturally through repetition, context, and familiar themes, and confidence tends to build gradually as you keep reading.
Q: How do I choose a Welsh book if I’m not sure what my level is?
A: A good way to start is to think about comfort rather than “level labels”. If you can follow simple sentences without constantly stopping to translate, you’re in the right place. If not, something more visual or story-led is usually easier to ease into.
Q: What if I don’t understand most of what I’m reading?
A: That’s completely normal at the start. The goal isn’t to understand every word, but to get used to how Welsh looks and sounds on the page. Understanding builds gradually.
Q: How can I keep motivated when learning feels slow?
A: Mixing things up helps a lot. Switching between stories, simple learning books, and even browsing different topics keeps it from feeling repetitive and makes it easier to stay interested.
Q: Do you sell anything else apart from books?
A: Alongside books, you’ll also find a selection of Welsh language CDs and DVDs. They’re a great way to hear the language spoken naturally, whether you’re learning pronunciation, enjoying Welsh music, or just want to experience more of the culture in a different format.
Cwestiynau Cyffredin: Siop Lyfrau yng Nghaerdydd
C: Ydy hi’n dal yn bosib mwynhau llyfrau Cymraeg os nad ydw i'n gwbl rugl?
A: Yn bendant. Does dim angen deall pob gair i fwynhau darllen. Mae llawer o ddysgwyr yn codi pethau'n naturiol trwy ailadrodd, cyd-destun, a themâu cyfarwydd, ac mae hyder yn tueddu i godi'n raddol drwy barhau i ddarllen.
C: Sut mae dewis llyfr Cymraeg os nad ydw i'n siŵr beth yw fy lefel i?
A: Un ffordd dda o fynd ati yw meddwl am beth sy’n gyffyrddus yn hytrach na "labeli lefel". Os gallwch chi ddilyn brawddegau syml heb stopio i gyfieithu, rydych chi yn y lle iawn. Fel arall, mae rhywbeth mwy gweledol neu lyfrau wedi’u seilio ar stori fel arfer yn haws.
C: Beth os nad ydw i'n deall y rhan fwyaf o'r hyn dwi'n ei ddarllen?
A: Mae hynny'n hollol normal ar y dechrau. Nid deall pob gair yw'r nod, ond dod i arfer â sut mae'r Gymraeg yn edrych ac yn swnio ar y dudalen. Mae’r deall yn cynyddu’n raddol.
C: Sut mae dal ati pan fydd dysgu yn teimlo'n araf?
A: Mae cymysgu pethau yn helpu’n fawr. Mae newid rhwng straeon, llyfrau dysgu syml, a hyd yn oed pori gwahanol bynciau yn cadw pethau rhag teimlo'n ailadroddus ac yn ei gwneud hi'n haws cadw diddordeb.
C: Ydych chi'n gwerthu unrhyw beth heblaw llyfrau?
A: Ochr yn ochr â’r llyfrau, fe welwch chi hefyd ddetholiad o CDs a DVDs Cymraeg. Dyma ffordd wych o glywed y Gymraeg yn naturiol, p'un a ydych chi'n dysgu ynganiad, yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg, neu eisiau profi mwy o'r diwylliant mewn fformat gwahanol.
A mwy! And more!
Cyrsiau Cymraeg / Welsh courses
(21 eitem / items)
Llyfrau Gweithgareddau / Activity Books
(67 eitem / items)
Dysgu Darllen / Learning to Read
(37 eitem / items)
Amrywiaeth / Diversity
(79 eitem / items)
Nofelau graffig
(22 eitem / items)
Llyfrau ail-law / Second-hand books
(206 eitem / items)