Llyfrau Cymraeg / Welsh Language Books
Welsh Language Books for Readers Who Want More Choice
If you're looking for Welsh language books, there's a good chance you already know the kind of reading you enjoy. You might be searching for the latest novel from one of your favourite authors, browsing for new poetry, looking for a biography, or simply seeing what's new in the world of Welsh publishing.
At Cant a mil, you'll find one of the largest selections of books written in Cymraeg available, all in one place. Rather than a small Welsh section tucked away in the corner, our collection is built around the language itself, making it easier to discover new titles, revisit old favourites, and explore subjects that interest you.
Whether you're interested in novels, short stories, poetry, plays, music, biographies and autobiographies, literary criticism, philosophy, religion, Welsh history, art, travel, leisure, sport, or nature writing, you'll find a depth of choice that is difficult to match elsewhere.
Cant a mil is Where Welsh Readers Discover Their Next Book
One of the pleasures of browsing Welsh books is stumbling across something you weren't looking for. You might arrive searching for a specific title and leave with something by an author whose work you’re unfamiliar with.
Keeping Up with New Welsh Publications
For many readers, part of the excitement is keeping up with what's being published now. We work hard to stock new Welsh-language releases as soon as they become available, including books that attract attention across the Welsh literary world.
You'll also find award-winning titles, including publications recognised at the National Eisteddfod, alongside books from established authors and exciting new voices. Whether you're following the latest releases or catching up on books you've missed, there's always something new to explore.
Specialist Knowledge from People Who Read Welsh Books Themselves
Choosing your next book is often easier when you're buying from people who are familiar with the language and the books written in Cymraeg. Welsh literature is incredibly varied, and sometimes the best recommendations come from people who know the authors, genres, and literary landscape well.
Our team has a deep knowledge of Welsh books and publishing, helping readers discover titles they may not have found elsewhere. Whether you're searching for a particular author, looking for recommendations, or exploring a new area of Welsh literature, we're always happy to help.
Browse our collection today and discover Welsh language books that keep you connected to the stories, ideas, and voices that make Welsh literature so distinctive.
Llyfrau Cymraeg i ddarllenwyr sy’n chwilio am fwy o ddewis
Os ydych chi wrthi’n chwilio am lyfrau Cymraeg, mae’n ddigon tebyg eich bod chi eisoes yn gwybod pa fath o ddeunydd sydd wrth eich bodd. Efallai eich bod yn chwilio am y nofel ddiweddaraf gan un o'ch hoff awduron, barddoniaeth neu fywgraffiad newydd, neu'n pori i weld beth sy'n newydd ym myd cyhoeddi Cymru.
Yn Cant a mil, fe welwch chi un o’r casgliadau gorau o’r llyfrau Cymraeg sydd ar gael, i gyd mewn un lle. Yn hytrach nag adran Gymraeg fach ynghudd mewn cornel, mae ein casgliad ni wedi'i adeiladu o amgylch yr iaith ei hun, sy’n golygu ei bod hi'n haws ichi ddarganfod teitlau newydd, ailgydio mewn hen ffefrynnau, a dod i nabod pynciau sydd o ddiddordeb ichi.
Beth bynnag fo’ch diddordeb – nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, dramâu, cerddoriaeth, bywgraffiadau a hunangofiannau, beirniadaeth lenyddol, athroniaeth, crefydd, hanes Cymru, celf, teithio, hamdden, chwaraeon, neu ysgrifennu am natur – fe welwch chi ddyfnder o ddewis sy'n anodd ei gael unrhyw le arall.
Yn Cant a mil mae darllenwyr Cymraeg yn darganfod eu llyfr nesaf
Un o bleserau pori llyfrau Cymraeg yw dod ar draws rhywbeth nad oeddech chi'n chwilio amdano. Efallai y byddwch chi'n dod i mewn i chwilio am deitl penodol ond yn gadael wedyn â rhywbeth gan awdur sy’n gwbl newydd ichi.
adw i fyny â chyhoeddiadau Cymraeg newydd
I lawer o ddarllenwyr, un rhan o'r cyffro yw dilyn yr hyn sy'n cael ei gyhoeddi nawr. Rydyn ni’n gweithio'n galed i stocio cyhoeddiadau Cymraeg newydd cyn gynted ag y byddan nhw ar gael, gan gynnwys llyfrau sy'n denu sylw ar draws y byd llenyddol Cymraeg.
Fe welwch chi hefyd deitlau arobryn, gan gynnwys enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol, ochr yn ochr â llyfrau gan awduron adnabyddus a lleisiau newydd cyffrous. P’un a ydych chi’n hoffi dilyn y cyhoeddiadau diweddaraf neu'n dal i fyny â llyfrau sydd wedi llithro drwy’r rhwyd, bydd rhywbeth newydd yma ichi bob tro.
Gwybodaeth arbenigol gan bobl sy'n ddarllenwyr brwd eu hunain
Mae dewis eich llyfr nesaf yn aml yn haws pan fyddwch chi'n prynu gan bobl sy'n gyfarwydd â'r iaith ac â llyfrau Cymraeg. Mae llenyddiaeth y Gymraeg yn eithriadol amrywiol, ac weithiau fe gewch chi’r argymhellion gorau gan bobl sy'n nabod yr awduron, y genres, a'r byd llenyddol yn dda.
Mae gan ein tîm ni wybodaeth fanwl am lyfrau a chyhoeddiadau Cymraeg, ac rydyn ni’n helpu darllenwyr i ganfod teitlau na fydden nhw’n eu gweld o bosib yn unman arall. P'un a ydych chi'n chwilio am awdur penodol, yn awyddus i gael argymhellion, neu'n edrych ar faes newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg, rydyn ni bob amser yn hapus i helpu.
Porwch yn ein casgliad heddiw a darganfod llyfrau Cymraeg fydd yn eich cadw mewn cysylltiad â'r straeon, y syniadau a'r lleisiau sy'n gwneud llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw.
Addysg - Education
Adfer Ty'n Twll
Adnabod - Gwion Hallam
Adroddiadau
Alan Llwyd
Alawon Sesiwn 1-4
FAQs: Welsh Language Books at Cant a mil
Q: How do readers usually discover new Welsh authors?
A: Sometimes it's through recommendations, literary awards, or reviews, but often it's simply through browsing. Many readers end up finding new favourites by picking up a book they hadn't planned to buy in the first place.
Q: What if I’m looking for a title I know exists, but I can’t remember the exact name?
A: That happens more often than people think. If you know the author, subject, or even roughly what the cover looked like, it is often enough to help narrow things down. We can also help jog your memory with a few of these details.
Q: Is this a good place to look for gifts for someone who reads Welsh?
A: Definitely. When someone already reads Welsh fluently, a thoughtful title or a book in a subject they love can go down very well.
Cwestiynau Cyffredin: Llyfrau Cymraeg yn Cant a mil
C: Sut mae darllenwyr fel arfer yn darganfod awduron Cymraeg newydd?
A: Weithiau trwy argymhellion, gwobrau llenyddol neu adolygiadau, ond yn aml mae'n digwydd wrth ichi bori. Bydd llawer o ddarllenwyr yn dod o hyd i ffefrynnau newydd trwy godi llyfr nad oedden nhw’n bwriadu ei brynu o gwbl.
C: Beth os ydw i'n chwilio am deitl dwi'n gwybod ei fod ar gael, ond yn methu cofio'r union enw?
A: Mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddech chi’n feddwl. Os ydych chi'n gwybod yr awdur, y pwnc, neu hyd yn oed sut olwg yn fas oedd ar y clawr, mae hynny yn aml yn ddigon i helpu i gael y maen i’r wal. Gallwn helpu hefyd i brocio’ch cof gydag ychydig o'r manylion yma.
C: Ydy hwn yn lle da i chwilio am anrhegion i rywun sy'n darllen Cymraeg?
A: Ydy yn bendant. Pan fydd rhywun eisoes yn darllen Cymraeg yn rhugl, bydd yna groeso mawr i deitl addas neu lyfr mewn pwnc sydd wrth eu bodd.