geo-tag

Llyfrau Dysgu Cymraeg / Learn Welsh Books

Cymraeg

If you’re wanting to learn Welsh this is the place for you! We have the best selection of learn Welsh books for all levels from Mynediad through Sylfaen and Canolradd to Uwch.

Build Confidence in Your Welsh Language Skills With Our Books

Learn Welsh books are the ideal way to start building your confidence with Cymraeg, whether you’re completely new or returning to the language after some time away.

At Cant a mil, we have a varied range of books you can read at your own pace and comfort. Some focus on everyday vocabulary and useful phrases, while others guide you through reading short passages and helping you build understanding step by step.

They complement other learning methods perfectly. Apps and online courses are great for quick practice and repetition, but books give you space to slow down and properly take in what you’re learning. You can see words in full sentences, notice patterns, and revisit sections whenever you need to.

Many learners find that combining different approaches helps things stick more easily. For example, using our books alongside our CDs or doing short daily sessions on a language app can help reinforce what you’re picking up in a more relaxed way.

From beginner to more confident reader, there’s something for everyone. Browse our selection and build your Welsh fluency one book at a time.

Os dych chi eisiau dysgu Cymraeg, dyma’r lle i chi! Dyn ni’n gwerthu llawer o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg ar bob lefel.

Magwch Hyder yn eich Sgiliau Cymraeg gyda'n Llyfrau

Llyfrau dysgu Cymraeg yw'r ffordd ddelfrydol o ddechrau magu’ch hyder yn y Gymraeg, p'un a ydych chi'n hollol newydd neu'n ail-afael yn yr iaith ar ôl peth amser.

Yn Cant a mil, mae gennyn ni ystod amrywiol o lyfrau y gallwch eu darllen ar eich pwys eich hun. Mae rhai yn canolbwyntio ar eirfa bob dydd ac ymadroddion defnyddiol, tra bo eraill yn eich tywys trwy ddarllen darnau byr a'ch helpu i adeiladu dealltwriaeth gam wrth gam.

Maen nhw’n ategu dulliau dysgu eraill yn berffaith. Mae apiau a chyrsiau ar-lein yn wych at ymarfer cyflym ac ailadrodd, ond mae llyfrau yn rhoi lle ichi arafu a chymryd i mewn yr hyn rydych chi'n ei ddysgu. Gallwch weld geiriau mewn brawddegau llawn, sylwi ar batrymau, ac ailddarllen adrannau pryd bynnag y bydd angen.

Mae llawer o ddysgwyr yn gweld bod cyfuno dulliau gwahanol yn helpu pethau i gydio’n haws. Er enghraifft, gall defnyddio’n llyfrau ochr yn ochr â'n CDs neu wneud sesiynau dyddiol byr ar ap iaith helpu i atgyfnerthu'r hyn rydych chi'n ei godi mewn ffordd fwy hamddenol.

O ddechreuwyr i ddarllenwyr mwy hyderus, mae rhywbeth at ddant pawb. Porwch ein detholiad ac adeiladwch eich rhuglder yn y Gymraeg un llyfr ar y tro.

Welsh Childrens Books Welsh Childrens Book Welsh books for Children
Didoli gan / Sort by:
Didoli / Filter
Cymraeg

Learning Through Welsh Culture

Welsh language books don’t just teach words, they also connect you to culture through stories, traditions, and everyday life in Wales. This helps the language feel more meaningful, as you begin to see how it is used naturally within cultural contexts and shared experiences.

FAQs: Learn Welsh Books

Q: Do I need to understand grammar to read these books?

A: Many of the books are designed so you can pick up patterns naturally as you go, without needing to study grammar rules beforehand.

Q: How do I know if I’m choosing something too difficult?

A: A good sign is how often you need to stop and translate. If you can follow the general idea without getting stuck on every line, you’re likely at the right level.

Q: Should I translate every word I don’t understand?

A: Trying to understand meaning from context first often helps you remember things more naturally.

Q: What makes reading better than just using apps alone?

A: Reading gives you space to see language in full context, which helps you recognise patterns in sentences more easily.

Q: How do I know if I’m improving my Welsh language skills?

A: You might notice you’re recognising more words, needing fewer pauses, or feeling more comfortable reading longer passages.

Dysgu Trwy Ddiwylliant Cymru

Mae llyfrau Cymraeg yn gwneud mwy na dysgu geiriau, maen nhw hefyd yn eich cysylltu â diwylliant trwy straeon, traddodiadau, a bywyd bob dydd. Mae hyn yn helpu'r iaith i deimlo'n fwy ystyrlon, wrth ichi ddechrau gweld sut mae'n cael ei defnyddio'n naturiol mewn cyd-destunau diwylliannol a phrofiadau cyffredin.

Cwestiynau Cyffredin: Llyfrau Dysgu Cymraeg

C: Oes angen imi ddeall gramadeg er mwyn darllen y llyfrau yma?

A: Mae llawer o'r llyfrau wedi'u cynllunio fel y gallwch chi godi cystrawennau’n naturiol wrth ichi fynd, heb orfod astudio rheolau gramadeg ymlaen llaw.

C: Sut ydw i'n gwybod os ydw i'n dewis rhywbeth rhy anodd?

A: Un arwydd da yw pa mor aml y bydd angen stopio a chyfieithu. Os gallwch chi ddilyn y syniad cyffredinol heb fynd yn sownd ar bob llinell, mae'n debygol eich bod chi ar y lefel gywir.

C: Ddylwn i gyfieithu pob gair dwi ddim yn ei ddeall?

A: Mae ceisio deall ystyr o'r cyd-destun yn gyntaf yn aml yn eich helpu i gofio pethau'n fwy naturiol.

C: Beth sy'n gwneud darllen yn well na defnyddio apiau yn unig?

A: Mae darllen yn rhoi lle ichi weld iaith yn ei chyd-destun llawn, sy'n eich helpu i adnabod patrymau mewn brawddegau yn haws.

C: Sut dwi'n gwybod os ydw i'n gwella fy sgiliau Cymraeg?

A: Efallai y gwelwch chi eich bod chi'n adnabod mwy o eiriau, angen llai o seibiannau, neu'n teimlo'n fwy cyffyrddus yn darllen darnau hirach.