Adolygiadau Bach Pwt

Adolygiadau bach pwt
Gan mai oedolion sy’n ysgrifennu llyfrau plant*, eu golygu a’u cyhoeddi nhw, mae’n hawdd colli golwg ar beth mae PLANT yn meddwl o’r llyfrau sydd ar gael iddyn nhw. Dyna pam dwi’n credu bod adolygiadau gan blant yn bwysig. A chi’n gwybod beth, does dim angen i adolygiad fod yn hir i fod yn adolygiad effeithiol... less is more wedi’r cyfan 😉
Yn y siop rydyn ni wedi bod yn casglu adolygiadau ar bost-it notes gan blant ac yn eu gosod nhw ar y silffoedd. Dyma rai ohonyn nhw i chi.
Asiant A - Anni Llŷn
Fi a Joe Allen - Manon Steffan Ross
Efa (Cyfres y Melanai) - Bethan Gwanas
Cyfrinach Ifan Hopcyn - Eiry Miles
Y Gwylliaid - Bethan Gwanas
Prism - Manon Steffan Ros
Comic Mellten
Twm Clwyd - L Pichon
Dyddiadur Dripsyn - Jeff Kinney
*Mae eithriadau sy’n profi pob rheol - yn ddiweddar cyhoeddodd Onwy Gower, yn ddeg oed, ei llyfr ardderchog Llyfr Adar Mawr y Plant.
Hefyd mae rhai awduron yn ysgrifennu llyfrau gyda phlant hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys Morgan Tomos gyda rhai o’i lyfrau Alun yr Arth, a chasgliadau barddoniaeth Bardd Plant Cymru.
- Alex Mills